Cofnodion cryno - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019

Amser: 09.34 - 12.14
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5516


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Bethan Sayed AC (Cadeirydd)

Mick Antoniw AC

John Griffiths AC

Delyth Jewell AC

David Melding AC

Tystion:

Shan Morgan, Llywodraeth Cymru

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru

Bethan Webb, Llywodraeth Cymru

Barwnes Kay Andrews OBE

Staff y Pwyllgor:

Robert Donovan (Clerc)

Lowri Jones (Dirprwy Glerc)

Osian Bowyer (Ymchwilydd)

Robin Wilkinson (Ymchwilydd)

Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Carwyn Jones AC.

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Am 10.00am, nododd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y ddau unigolyn a gollodd eu bywydau yn y digwyddiad rheilffyrdd trasig ym Margam yr wythnos diwethaf.

2.1 Atebodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion ynghylch pa wyliau a gafodd arian eleni.

2.3 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol hefyd i ddarparu rhagor o fanylion am y rhaglen ddigidol e-sgol.

2.4 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu gwybodaeth am gynllun Camau a chyflwyno cynlluniau meithrin.

2.5 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i roi gwybod i ni am ddatblygiad y strategaeth Iaith Gymraeg newydd.

2.6 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ddarparu manylion am y cwynion a gafwyd ynghylch Safonau’r Gymraeg.

 

</AI2>

<AI3>

3       Minnau hefyd! - Ymchwiliad i rôl y celfyddydau a diwylliant wrth fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol: sesiwn dystiolaeth gyda’r Farwnes Kay Andrews OBE

3.1 Bu’r Farwnes Kay Andrews OBE yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

</AI3>

<AI4>

4       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

4.1   Gohebiaeth gydag Equity ynghylch yr angen i gynnal clyweliadau lleol ar gyfer cynyrchiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru

4.1 Nododd yr Aelodau y papur.

</AI5>

<AI6>

4.2   Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Y Gymraeg mewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

4.2 Nododd yr Aelodau y papur.

</AI6>

<AI7>

4.3   Llythyr at y Gweinidog Addysg ynghylch natur drosglwyddadwy sgiliau addysgu

4.3 Nododd yr Aelodau y papur.

</AI7>

<AI8>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI8>

<AI9>

6       Ôl-drafodaeth breifat

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law yn ei sesiwn dystiolaeth ar 26 Mehefin a’r sesiwn dystiolaeth yng nghyfarfod heddiw. 

</AI9>

<AI10>

7       Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru: trafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor

7.1 Cynhaliodd yr Aelodau drafodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor. 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>